OpenAI
| Enghraifft o: | menter |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 2015 |
| Prif weithredwr | Sam Altman |
| Sylfaenydd | Sam Altman, Ilya Sutskever, Greg Brockman, Wojciech Zaremba, Andrej Karpathy, John Schulman, Trevor Blackwell, Vicki Cheung, Diederik P. Kingma, Pamela Vagata |
| Aelod o'r canlynol | datacenter coalition |
| Gweithwyr | 4,500 |
| Isgwmni/au | OpenAI OpCo, OpenAI Group PBC |
| Ffurf gyfreithiol | Delaware corporation, sefydliad 501(c)(3) |
| Cynnyrch | DALL-E, GPT-3, GPT-4, ChatGPT, GPT-5 |
| Asedau | 22,678,253 $ (UDA) |
| Pencadlys | San Francisco |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://openai.com/ |
| Dynodwyr | |
Mae OpenAI yn sefydliad ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial (AI) o'r Unol Daleithiau a sefydlwyd yn Rhagfyr 2015, gyda'r bwriad o ddatblygu deallusrwydd cyffredinol artiffisial "diogel a buddiol", y mae'n ei ddiffinio fel "systemau ymreolaethol iawn sy'n perfformio'n well na bodau dynol yn y gwaith mwyaf gwerthfawr yn economaidd.[1] Fel un o brif sefydliadau'r AI Spring,[2][3][4] mae wedi datblygu sawl model iaith mawr, modelau cynhyrchu delweddau, ac yn flaenorol, modelau ffynhonnell agored hefyd.[5][6] Mae rhyddhau ChatGPT wedi cael y clod am ddechrau'r hyn a elwir yn 'wanwyn' neu 'chwyldro' deallusrwydd artiffisial.[7]
Mae'r sefydliad yn cynnwys yr OpenAI, Inc.[8] sef sefydliad dielw sydd wedi'i gofrestru yn Delaware a'i is- gwmni er-elw OpenAI Global, LLC.[9]
Fe’i sefydlwyd gan Ilya Sutskever, Greg Brockman, Trevor Blackwell, Vicki Cheung, Andrej Karpathy, Durk Kingma, Jessica Livingston, John Schulman, Pamela Vagata, a Wojciech Zaremba, gyda Sam Altman ac Elon Musk.[10][11] Darparodd Microsoft $1 biliwn i OpenAI Global LLC a $10 biliwn pellach yn 2019[12][13] gyda chyfran sylweddol o'r buddsoddiad ar ffurf adnoddau cyfrifiadurol ar wasanaeth cwmwl Azure Microsoft.[14]
Ar 17 Tachwedd 2023, fe ddiswyddodd y bwrdd Altman fel Prif Swyddog Gweithredol (CEO), tra diswyddwyd Brockman fel cadeirydd ac yna ymddiswyddodd fel arlywydd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, dychwelodd y ddau ar ôl trafodaethau gyda'r bwrdd, ac ymddiswyddodd y rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd. Roedd y bwrdd cychwynnol newydd yn cynnwys cyn-Brif Swyddog Gweithredol Salesforce, Bret Taylor fel cadeirydd[15] a chafodd Microsoft sedd di-bleidlais.[16]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn ôl ymchwiliad dan arweiniad TechCrunch, Elon Musk oedd y rhoddwr ariannol mwyaf tra na chyfranodd YC Research yr un geiniog goch.[17] Dywedodd y sefydliad y byddai'n "cydweithio'n rhydd" gyda sefydliadau ac ymchwilwyr eraill trwy wneud ei batentau a'i ymchwil yn agored i'r cyhoedd.[18][19] Ers ei sefydlu, mae pencadlys OpenAI yn Adeilad Pioneer yn Mission District, San Francisco.[20][21]
Yn Ebrill 2016, rhyddhaodd OpenAI fersiwn beta (arbrofol) o "OpenAI Gym", ei lwyfan ar gyfer ymchwil dysgu ac addysgu.[22] Rhoddodd Nvidia ei uwchgyfrifiadur DGX-1 cyntaf i OpenAI yn Awst 2016 i'w helpu i hyfforddi modelau AI mwy a mwy cymhleth gyda'r gallu i leihau'r amser prosesu o chwe diwrnod i ddwy awr.[23][24] Yn Rhagfyr 2016 rhyddhawyd OpenAI "Universe", llwyfan meddalwedd ar gyfer mesur a hyfforddi deallusrwydd cyffredinol AI ar draws cyflenwad o gemau, gwefannau a chymwysiadau bydeang eraill.[25][26][27]
Yn 2017 gwariodd OpenAI $7.9 miliwn, neu chwarter ei dreuliau swyddogaethol, ar gyfrifiadura cwmwl yn unig.[28] Mewn cymhariaeth, cyfanswm treuliau DeepMind yn 2017 oedd $442 miliwn. Yn ystod haf 2018, roedd hyfforddi bots Dota 2 OpenAI yn unig yn golygu rhentu 128,000 CPU a 256 GPU gan Google am wythnosau di-ben-draw.
Yn 2018, ymddiswyddodd Musk o'i sedd ar y bwrdd, gan nodi " gwrthdaro [buddiant] posibl yn y dyfodol" oherwydd ei rôl arall, fel Prif Swyddog Gweithredol Tesla a oedd yn brysur ddatblygu AI Tesla ar gyfer ceir hunan-yrru.[29] Mae Sam Altman yn honni bod Musk yn credu bod OpenAI wedi cwympo y tu ôl i chwaraewyr eraill fel Google a chynigiodd Musk yn lle hynny gymryd drosodd OpenAI ei hun, rhywbeth a wrthodwyd gan y bwrdd. Gadawodd Musk OpenAI wedi hynny ond honnodd ei fod yn parhau i fod yn rhoddwr, ond ni wnaeth unrhyw roddion ar ôl iddo adael, hyd y gwyddus.[30]
Yn Chwefror 2019 cyhoeddwyd GPT-2, a gafodd lawer o sylw am ei allu i gynhyrchu testun tebyg i ddyn.[31]
Yn 2019, trosglwyddodd OpenAI o fod yn gorff dielw (nid-am-elw) i 'gapio'r elw' ar luoswm o 100 gwaith unrhyw fuddsoddiad.[32] Yn ôl OpenAI, mae'r model 'capio'r elw' hwn yn caniatáu i OpenAI Global LLC ddenu buddsoddiad yn gyfreithlon o gronfeydd menter a rhoi arian i weithwyr y cwmni. Mae llawer o'r ymchwilwyr gorau'n gweithio i Google Brain, DeepMind, neu Facebook, sy'n cynnig opsiynau stoc na fyddai cwmni dielw yn gallu eu gwneud.[33] Cyn y cyfnod pontio, roedd yn gyfreithiol ofynnol iddyn nhw ddatgelu symiau iawndal y gweithwyr pwysicaf yn OpenAI.[34]
Yna dosbarthodd y cwmni ecwiti i'w weithwyr a ffurfio partneriaeth â Microsoft,[35] a wnaeth fbuddsoddi o $1 biliwn i'r OpenAI. Ers hynny, mae systemau OpenAI wedi rhedeg ar lwyfan uwchgyfrifiadura Azure gan Microsoft.[36][37][38]
2020-2023: partneriaeth rhwng ChatGPT, DALL-E â Microsoft
[golygu | golygu cod]Yn 2020, cyhoeddodd OpenAI GPT-3, model iaith sydd wedi’i hyfforddi ar setiau mawr o ddata o'r rhyngrwyd. Mae GPT-3 wedi'i anelu at iaith naturiol sy'n ateb cwestiynau, ond gall hefyd gyfieithu rhwng ieithoedd a chynhyrchu testun byrfyfyr yn gydlynol. Cyhoeddodd hefyd y byddai API cysylltiedig, a enwir yn syml "yr API", yn ffurfio calon ei gynnyrch masnachol cyntaf.[39]
Yn 2021, cyflwynodd OpenAI DALL-E, model dysgu dwfn arbenigol a all gynhyrchu delweddau digidol cymhleth o ddisgrifiadau testunol, gan ddefnyddio amrywiad o bensaernïaeth GPT-3.[40]
Yn Rhagfyr 2022, derbyniodd OpenAI sylw eang yn y cyfryngau ar ôl lansio rhagolwg rhad ac am ddim o ChatGPT, ei chatbot AI newydd yn seiliedig ar GPT-3.5. Yn ôl OpenAI, cofrestriadau o fewn y pum diwrnod dros filiwn y diwrnod cyntaf.[41] Yn ôl ffynonellau dienw a ddyfynnwyd gan Reuters yn Rhagfyr 2022, roedd OpenAI Global LLC yn rhagamcanu $200 miliwn o refeniw yn 2023 a $1 biliwn mewn refeniw yn 2024.[42]


Yn Ionawr 2023, roedd OpenAI Global LLC mewn trafodaethau am gyllid a fyddai'n codi gwerth y cwmni OpneAI Global LLC i $29 biliwn, dwbl ei werth 2021.[43] Ar 23 Ionawr 2023 cyhoeddodd Microsoft fuddsoddiad aml-flwyddyn o US$ 10 biliwn newydd yn OpenAI Global LLC.[44][45] Roedd sibrydion am y fargen hon yn awgrymu y gallai Microsoft dderbyn 75% o elw OpenAI nes iddo sicrhau ei enillion buddsoddi a chyfran o 49% yn y cwmni.[46] Cyhoeddodd Google ap AI tebyg (sef Bard), ar ôl i ChatGPT gael ei lansio, gan ofni y gallai ChatGPT fygwth lle Google fel ffynhonnell wybodaeth.[47][48]
Ar 7 Chwefror 2023, cyhoeddodd Microsoft ei fod yn adeiladu technoleg AI yn seiliedig ar yr un sylfaen â ChatGPT i mewn i Microsoft Bing, Edge, Microsoft 365 a chynhyrchion eraill. [49]
Ar 14 Mawrth 2023, rhyddhaodd OpenAI GPT-4, fel API (gyda rhestr aros) ac fel nodwedd o ChatGPT Plus.[50]
Ar 22 Mai 2023, postiodd Sam Altman, Greg Brockman ac Ilya Sutskever argymhellion ar gyfer llywodraethu deallusrwydd-uwch (superintelligence).[51] Dyma'r math o ddeallusrwydd artiffisial a ddisgrifir yn y nofel Gymraeg Y Dydd Olaf yn 1967-8 gan Owain Owain. Maen nhw'n ystyried y gallai deallusrwydd-uwch ddigwydd o fewn y 10 mlynedd nesaf, gan ganiatáu "dyfodol mwy llewyrchus, dramatig" ac "o ystyried y posibilrwydd o risg dirfodol, ni allwn fod yn adweithiol yn unig". Dywedodd y grwp fod angen creu corff gwarchod rhyngwladol (international watchdog) tebyg i IAEA i oruchwylio systemau AI uwchlaw trothwy gallu penodol, gan awgrymu na ddylai systemau AI cymharol wan ar yr ochr arall gael eu rheoleiddio'n ormodol. Maen nhw hefyd yn galw am fwy o ymchwil diogelwch technegol ar gyfer dealltwriaeth-uwch, ac yn gofyn am fwy o gydlynu, er enghraifft trwy lywodraethau'n lansio prosiect ar y cyd fel bod "llawer o'r ymdrechion cyfredol yn dod yn rhan ohono".[51][52]
Cymhellion
[golygu | golygu cod]Mae rhai gwyddonwyr, fel Stephen Hawking a Stuart Russell, wedi mynegi pryderon, pe bai AI datblygedig (deallusrwydd-uwch) rywbryd yn ennill y gallu i ail-ddylunio ei hun ar gyfradd gynyddol, y gallai arwain at ddifodiant dynoliaeth. Dyma hefyd oedd byrdwn y nofel Y Dydd Olaf, yn ogystal a sut i wrthwynebu'r cyflyru, y dad-ddynoli a'r difodiant. Mae’r cyd-sylfaenydd Musk yn nodweddu AI fel “bygythiad dirfodol mwyaf” dynoliaeth.[53]
Mae Musk ac Altman wedi datgan eu bod yn cael eu cymell yn rhannol gan bryderon am ddiogelwch AI a'r risg dirfodol o ddeallusrwydd cyffredinol artiffisial.[54] Dywed OpenAI ei bod yn “anodd dirnad faint o AI ar lefel ddynol a allai fod o fudd i gymdeithas,” a’i bod yr un mor anodd deall “faint a allai niweidio cymdeithas pe bai’n cael ei adeiladu ar ei liwt ei hun, neu ei ddefnyddio’n anghywir”.[55] Ni ellir gohirio ymchwil ar ddiogelwch yn ddiogel: "oherwydd hanes rhyfeddol AI, mae'n anodd rhagweld pryd y gallai AI ar lefel ddynol ddod o fewn cyrraedd."[56] Dywed OpenAI y dylai AI "fod yn estyniad o ewyllys dyn ar lefel unigol ac, yn ysbryd rhyddid, wedi'i ddosbarthu mor eang ac mor gyfartal â phosib."Mae'r cyd-gadeirydd Sam Altman yn disgwyl i'r prosiect degawdau o hyd ragori ar ddeallusrwydd dynol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "OpenAI Charter". openai.com (yn Saesneg). 9 Ebrill 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 2023-07-11.
- ↑ Weil, Elizabeth (2023-09-25). "Sam Altman Is the Oppenheimer of Our Age". Intelligencer (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-12.
- ↑ Mickle, Tripp; Metz, Cade; Isaac, Mike; Weise, Karen (9 Rhagfyr 2023). "Inside OpenAI's Crisis Over the Future of Artificial Intelligence". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ Journal, The (10 Rhagfyr 2023). "Artificial: The OpenAI Story". WSJ (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
- ↑ gpt-2, OpenAI, 19 Tachwedd 2023, https://github.com/openai/gpt-2, adalwyd 19 Tachwedd 2023
- ↑ "Models - OpenAI API". OpenAI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2023.
- ↑ Frank, Michael (22 Medi 2023). "US Leadership in Artificial Intelligence Can Shape the 21st Century Global Order". The Diplomat (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-08.
- ↑ "OPENAI, INC". OpenCorporates. 2015-12-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Awst 2023. Cyrchwyd 2023-08-02.
- ↑ Our Structure.
- ↑ "Introducing OpenAI". OpenAI (yn Saesneg). December 12, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 8, 2017. Cyrchwyd 27 Ionawr 2023.
- ↑ "OpenAI, the company behind ChatGPT: What all it does, how it started and more". The Times of India (yn Saesneg). 25 Ionawr 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2023. Cyrchwyd 28 Ionawr 2023.
- ↑ Browne, Ryan (10 Ionawr 2023). "Microsoft reportedly plans to invest $10 billion in creator of buzzy A.I. tool ChatGPT". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2023. Cyrchwyd 27 Ionawr 2023.
- ↑ Lardinois, Frederic (14 Mawrth 2023). "Microsoft's new Bing was using GPT-4 all along". TechCrunch (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2023. Cyrchwyd 30 Mawrth 2023.
- ↑ "OpenAI has received just a fraction of Microsoft's $10 billion investment". Semafor (yn Saesneg). 2023-11-18. Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ "OpenAI brings Sam Altman back as CEO less than a week after he was fired by board". CNBC (yn Saesneg). 22 Tachwedd 2023.
- ↑ Leswing, Hayden Field,Kif (2023-11-30). "Microsoft secures nonvoting board seat at OpenAI". CNBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-30.
- ↑ Harris, Mark (17 Mai 2023). "Elon Musk used to say he put $100M in OpenAI, but now it's $50M: Here are the receipts". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2023.
- ↑ "Introducing OpenAI". OpenAI Blog. 12 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2019. Cyrchwyd 29 Medi 2018.
- ↑ "Tech giants pledge $1bn for 'altruistic AI' venture, OpenAI". BBC News. 12 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mawrth 2018. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2015.
- ↑ Conger, Kate. "Elon Musk's Neuralink Sought to Open an Animal Testing Facility in San Francisco". Gizmodo (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2018. Cyrchwyd 11 Hydref 2018.
- ↑ Hao, Karen (17 Chwefror 2020). "The messy, secretive reality behind OpenAI's bid to save the world". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ebrill 2020. Cyrchwyd 9 Mawrth 2020.
- ↑ Dave Gershgorn (27 Ebrill 2016). "Elon Musk's Artificial Intelligence Group Opens A 'Gym' To Train A.I." Popular Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2016. Cyrchwyd 29 Ebrill 2016.
- ↑ Carr, Austin; King, Ian (15 Mehefin 2023). "How Nvidia Became ChatGPT's Brain and Joined the $1 Trillion Club". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2023.
- ↑ Vanian, Jonathan (15 Awst 2016). "Elon Musk's Artificial Intelligence Project Just Got a Free Supercomputer". Fortune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Gorffennaf 2023.
- ↑ Mannes, John. "OpenAI's Universe is the fun parent every artificial intelligence deserves". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2019. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
- ↑ "OpenAI – Universe" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2017. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
- ↑ Claburn, Thomas. "Elon Musk-backed OpenAI reveals Universe – a universal training ground for computers". The Register. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2017. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Microsoft to invest $1 billion in OpenAI". Reuters (yn Saesneg). 22 Gorffennaf 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2020. Cyrchwyd 6 Mawrth 2020.
- ↑ Vincent, James (21 Chwefror 2018). "Elon Musk leaves board of AI safety group to avoid conflict of interest with Tesla". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 22 Chwefror 2018.
- ↑ "The secret history of Elon Musk, Sam Altman, and OpenAI | Semafor". www.semafor.com (yn Saesneg). 24 Mawrth 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2023. Cyrchwyd 30 Mawrth 2023.
- ↑ Hern, Alex (14 Chwefror 2019). "New AI fake text generator may be too dangerous to release, say creators". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2019. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2020.
- ↑ "OpenAI shifts from nonprofit to 'capped-profit' to attract capital" (yn Saesneg). 11 Mawrth 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ionawr 2023. Cyrchwyd 4 Ionawr 2023.
- ↑ Kahn, Jeremy (11 Mawrth 2019). "AI Research Group Co-Founded by Elon Musk Starts For-Profit Arm". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 6 Mawrth 2020.
- ↑ Metz, Cade (19 Ebrill 2018). "A.I. Researchers Are Making More Than $1 Million, Even at a Nonprofit". New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2018. Cyrchwyd 28 Ionawr 2023.
- ↑ "Microsoft invests in and partners with OpenAI" (yn Saesneg). 22 Gorffennaf 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Chwefror 2023. Cyrchwyd 17 Mawrth 2023.
- ↑ Langston, Jennifer (11 Ionawr 2023). "Microsoft announces new supercomputer, lays out vision for future AI work". Source. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2023. Cyrchwyd 10 Chwefror 2023.
- ↑ Foley, Mary Jo (19 Mai 2020). "Microsoft builds a supercomputer for OpenAI for training massive AI models". ZDNET. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2023. Cyrchwyd 10 Chwefror 2023.
- ↑ "Microsoft's OpenAI supercomputer has 285,000 CPU cores, 10,000 GPUs". Engadget. 19 Mai 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2023. Cyrchwyd 10 Chwefror 2023.
- ↑ Vance, Ashlee (11 Mehefin 2020). "Trillions of Words Analyzed, OpenAI Sets Loose AI Language Colossus". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Hydref 2020. Cyrchwyd 12 Mehefin 2020.
- ↑ "OpenAI debuts DALL-E for generating images from text". VentureBeat. 5 Ionawr 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2021. Cyrchwyd 5 Ionawr 2021.
- ↑ Roose, Kevin (5 Rhagfyr 2022). "The Brilliance and Weirdness of ChatGPT". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Ionawr 2023. Cyrchwyd 5 Ionawr 2023.
- ↑ Dastin, Jeffrey; Hu, Krystal; Dave, Paresh; Dave, Paresh (15 Rhagfyr 2022). "Exclusive: ChatGPT owner OpenAI projects $1 billion in revenue by 2024". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2023. Cyrchwyd 5 Ionawr 2023.
- ↑ Kruppa, Berber Jin and Miles (5 Ionawr 2023). "WSJ News Exclusive | ChatGPT Creator in Investor Talks at $29 Billion Valuation". Wall Street Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2023. Cyrchwyd January 6, 2023.
- ↑ "Microsoft Adds $10 Billion to Investment in ChatGPT Maker OpenAI". Bloomberg.com (yn Saesneg). January 23, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2023. Cyrchwyd 23 Ionawr 2023.
- ↑ Capoot, Ashley (23 Ionawr 2023). "Microsoft announces multibillion-dollar investment in ChatGPT-maker OpenAI". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2023. Cyrchwyd 23 Ionawr 2023.
- ↑ Warren, Tom (23 Ionawr 2023). "Microsoft extends OpenAI partnership in a "multibillion dollar investment"". The Verge (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2023. Cyrchwyd 29 Ebrill 2023.
- ↑ "Bard: Google launches ChatGPT rival". BBC News (yn Saesneg). 6 Chwefror 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2023. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
- ↑ Vincent, James (8 Chwefror 2023). "Google's AI chatbot Bard makes factual error in first demo". The Verge (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2023. Cyrchwyd 12 Chwefror 2023.
- ↑ Dotan, Tom (7 Chwefror 2023). "Microsoft Adds ChatGPT AI Technology to Bing Search Engine". Wall Street Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2023. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
- ↑ "GPT-4". openai.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mawrth 2023. Cyrchwyd 16 Mawrth 2023.
- 1 2 "Governance of superintelligence". openai.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2023. Cyrchwyd 2023-05-30.
- ↑ Wodecki, Ben; Yao, Deborah (23 Mai 2023). "OpenAI Founders Warn AI 'Superintelligence' is Like Nuclear Power". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2023. Cyrchwyd 30 Mai 2023.
- ↑ Piper, Kelsey (2 Tachwedd 2018). "Why Elon Musk fears artificial intelligence". Vox (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ebrill 2021. Cyrchwyd 10 Mawrth 2021.
- ↑ Lewontin, Max (14 Rhagfyr 2015). "Open AI: Effort to democratize artificial intelligence research?". The Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Tech giants pledge $1bn for 'altruistic AI' venture, OpenAI". BBC News. 12 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mawrth 2018. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2015."Tech giants pledge $1bn for 'altruistic AI' venture, OpenAI".
- ↑ Mendoza, Jessica. "Tech leaders launch nonprofit to save the world from killer robots". The Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2015.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- OpenAI ar X
- "What OpenAI Really Wants" by Wired